00:00:06 [Dechrau sydyn, dim cyflwyniad, dim cyd-destun]. Cefndir teuluol, blynyddoedd cynnar a symud i dŷ mwy pan oedd yn dair oed.
00:01:00 Cofio Ffair Treorci; roedd gan ei fam-gu gysylltiad â masnachwr gwlanen o Landysul a oedd yn masnachu yn y ffair.
00:01:50 Dechreuodd Evan ar ei waith yng nglofa Abergorki, Treorci, ym 1903, yn 13 oed; manylion gosod propiau a "chaeadau". Ar ôl rhai wythnosau, roedd Evan wedi cael digon ar yr amodau gwaith yn Abergorki ac wedi mynd i weithio gyda'i dad yn pwyso (?) ar y "Prince Level" (? sain aneglur).
00:04:40 Ar ôl mis neu ddau yn gweithio yno, canfu Evan fod yr amodau'n rhy laith a cheisiodd gwaith yng Nglofa'r Ocean, Blaengarw, i weithio fel "bachgen drws".
00:07:03 Newidiadau yn Nhreorci; y llwybr lle teithiodd y glo drwy Dreorci; cofio'r ffair (merched yn dawnsio, organau pib a sioeau ochr).
00:08:43 Cafodd Evan swydd dros dro ar y stondin taro cnau coco a chafodd nifer o lympiau ar ei ben am ei drafferth; blynyddoedd cynnar yn yr ysgol.
00:10:30 Dechrau gwaith ar y ffas lo yng Nglofa'r Ocean; "cracio'r" glo wrth iddyn nhw weithio; peryglon a damweiniau o dan y ddaear.
00:12:30 Iaith y glowyr o dan y ddaear, rhegi ofnadwy; ofn gweithio dan ddaear; amodau o dan y ddaear.
00:14:45 Disgwyliadau ohonoch fel gweithiwr yn ymwneud â dramiau; yn disgrifio'r gwythiennau glo a'u hymdrechion i'w ddilyn.
00:19:53 Cafodd Evan rôl newydd a chodiad cyflog i bum swllt y dydd, oedd yn golygu mai ef oedd y bachgen (17 oed) gyda'r cyflog gorau yn yr ardal.
00:22:12 Ym 1911, yn dilyn taith i Gaeredin i wylio Cymru'n chwarae'r Alban, cafodd Evan annwyd drwg, nid oedd ei iechyd yn gwella ac ni ddychwelodd i weithio dan ddaear; cyngor ei feddyg oedd dringo'r mynydd pan oedd hi'n gwawrio.
00:25:30 Daeth Evan i gysylltiad ag "undebwyr llafur pybyr" ac fe wnaethon nhw argraff arno.
00:28:00 Yn 1913, ar ôl gwella ei hun trwy ddilyn cyngor y meddyg, cafodd Evan swydd fel porthor rheilffordd yn Nhreherbert gan ddechrau 42 mlynedd o weithio ar y rheilffyrdd.
00:30:12 Aeth Evan i Gaerdydd i gael prawf meddygol. Pasiodd y prawf ac aeth i Orsaf Heol y Frenhines i gasglu ei wisg Rheilffordd Cwm Taf newydd; mae Evan yn disgrifio'r wisg.
00:31:43 Ymunodd Evan ag undeb rheilffordd yr NUR, yn costio chwe cheiniog yr wythnos. Ymunodd hefyd â'r "ysbyty" a'r "cartref ymadfer", y ddau yn costio ceiniog yr wythnos.
00:32:37 Evan yn disgrifio ei ddyletswyddau a'i ddealltwriaeth gynyddol o weithrediadau'r rheilffyrdd.
00:34:33 Y newid o ddefnyddio olew i nwy ar gyfer goleuo'r cerbydau rheilffordd.
00:37:48 Daeth Evan o hyd i deithiwr yn cysgu ar drên olaf y noson ac aeth gydag ef adref.
00:40:46 Defnyddio "breciau" ceffyl (certi) ar gyfer teithio; ar Ddydd Gwener y Groglith, 1907 teithiodd Evan ar "frêc" a chwaraeodd yn erbyn Crysau Duon Pontypridd mewn gêm bêl-droed ar Gae'r Felin a threuliodd y noson yn gwylio'r Merry Widow yn cael ei pherfformio yn Nhŷ Opera Treherbert.
00:43:19 Mae Evan yn cofio'r tramiau cyntaf yn yr ardal a'r ffyrdd cyn gosod palmentydd.
00:45:34 Cofio Gŵyl Diwygiad Cymru 1904 (y diwygiad Cristnogol mwyaf yng Nghymru yn ystod yr 20fed ganrif). Roedd Evan yn gwrthod cael ei fedyddio gan yr oedd yn teimlo nad oedd yn ei ddeall, fe gafodd ei fedyddio yn y diwedd pan briododd.
00:51:09 Gwyliodd Evan arweinwyr gwleidyddol yn rhoi areithiau, gan gynnwys, Vernon Hartshorn, Noah Ablett (y cyfeirir ato yma fel Tom Ablett) a William Abraham (a adwaenir hefyd fel Mabon); cyfarfodydd undeb yng Ngwesty'r Bute; gwaith caled ar y rheilffyrdd.
00:54:14 Y Rhyfel Byd Cyntaf yn dechrau; ni fyddai’r cwmni rheilffordd yn rhyddhau Evan i ymuno â’r ymladd ac yn hytrach roedd yn gweithio’r blwch signal ar gyfer Glofa Bute Merthyr yn rhan o’i hyfforddiant.
00:56:35 Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Evan yn gweithio shifftiau hir yn y blwch signal yng Nglofa Ynysfeio a Nant Dyrys.
00:58:23 [Recordiad yn gorffen yn sydyn].