Glenys Edwards - Rhan 1

This item is active and ready to use
Glenys Edwards - Rhan 1

Manylion

Teitl
Glenys Edwards - Rhan 1
Lleoliad
Maerdy

Trawsgrifiad

00:00:01 Cyflwyniad

00:00:29 Mae Glenys yn cael ei geni yn Nheras y Nant, Maerdy ym 1921; cefndir teuluol

00:01:40 Bywyd ysgol Glenys yn y Maerdy a Glynrhedynog; mae prifathrawes yr ysgol gynradd yn Fethodist i'r carn ac yn frwd o blaid y Gymraeg

00:02:27 Y Gymraeg oedd unig iaith yr aelwyd yng nghartref Glenys yn ystod ei bywyd cynnar, a digwyddodd seremoni ei phriodas yn y Gymraeg. Er iddi gael ei magu'n Fedyddiwr fe briododd â gweinidog oedd yn Fethodist Calfinaidd a daeth yn Fethodist ei hun

00:03:39 Ysgol Ramadeg Glynrhedynog roedd Glenys yn ei mynychu, ac roedd yn ddisgybl disglair. Wedi iddi orffen yn yr ysgol mae Glenys yn sicrhau swydd yn Woolworths, Pen-y-Graig; trefniadau teithio i'r gwaith a gartref

00:05:52 Pan roedd yn ei harddegau, y capel oedd canolbwynt bywyd cymdeithasol o hyd yn y pentref; yn blentyn iau, byddai'n mynd i'r sinema ar brynhawniau Sadwrn

00:08:12 Yn ystod y rhyfel, byddai trafnidiaeth gyhoeddus yn dod i stop oherwydd y terfysgoedd awyr, gyda'r teithwyr ar y cerbydau; peryglon mynd o le i le yn ystod llwyrddüwch

00:09:08 Er ei bod hi am ddilyn yn ôl troed ei chyfnither ac ymuno â'r Llynges Frenhinol, mae mam Glenys yn gwneud iddi gymryd swydd yn y maes diwydiant ac mae'n symud o'i swydd yn Simmonds Aerocessories, Trefforest, i ddechrau mewn ffactri newydd yn Sunderland

00:11:17 Dyw'r siwrne gyntaf i Sunderland ddim yr hyn yr oedd wedi'i ddisgwyl

00:13:19 Cyffro bod oddi cartref am y tro cyntaf yn cael ei amharu gan y ffaith bod y wlad wedi mynd i ryfel

00:13:42 Yn ystod eu cyfnod yn aros yn y llety, mae'r perchennog yn edrych ar ôl y merched; mae'r terfysgoedd awyr yn beth arferol

00:15:06 Yn sgil cyflwr meddygol yn ymwneud â'i choesau mae Glenys yn dychwelyd i Faerdy tua diwedd 1944

Manylion cyfweliad

Enw’r Sawl sy’n cael ei Gyfweld
Glenys Edwards
Enw’r Sawl sy’n Cyfweld
Gareth Gill
Dyddiad y cyfweliad
28/10/2005

Labelau