Glyndwr Jones - Rhan 1

This item is active and ready to use
Glyndwr Jones - Rhan 1

Manylion

Teitl
Glyndwr Jones - Rhan 1
Lleoliad
Tonypandy

Trawsgrifiad

00:00:03 Cyflwyniad

00:00:27 Wedi'i eni yn 1925, cafodd ymadawiad Glyn o'r ysgol ei oedi o ganlyniad i ddechrau'r rhyfel.

00:01:33 Yn 14 oed, dechreuodd Glyn weithio fel "lather boy" yn siop trin gwallt Dick Jones, Tonypandy; mae’n disgrifio'i ddyletswyddau

00:04:18 Cofio rhuthro adref ar gyfer uchafbwynt adloniant yr wythnos, Dick Barton ar y radio; Sinema yr Empire, Tonypandy

00:06:06 Mae Ffair yn teithio i Donypandy adeg y Nadolig

00:06:49 Cyffro cyffredinol dynion ifainc ar ddechrau'r rhyfel. Mae problemau gyda thraed Glyn yn atal ei wasanaeth milwrol; yn 17 oed mae'n cael llawdriniaeth ar ei draed

00:08:55 Gan wella o'i lawdriniaeth, mae ei chwaer hŷn, sy'n nyrs, yn ei wahodd i Portsmouth i ymadfer; taith ofnus lle mae'r 'gynnau mawr' sy'n amddiffyn harbwr Portsmouth yn cael eu datgelu fel peipiau draeniau.

00:11:21 Mae traed Glyn yn atal ei fynediad i'r lluoedd, felly mae'n mynd i Goleg Bennet, Sheffield, i astudio peirianneg drydanol gyda llawer o anogaeth gan ei fam

00:14:23 Mae Glyn yn cael ei gyhuddo o fod yn segur yn ystod y rhyfel ar gam, ac yna'n ymuno â'r Gwarchodlu Cartref

00:16:47 Mae Glyn yn hel atgofion am ba mor ddiniwed oedd ef pan oedd e’n arddegwr.

00:18:26 Mae'r Gwarchodlu Cartref yn defnyddio beic modur Glyn, Enfield "Flying Flea" wrth i Glyn ddod yn reidiwr sy’n cludo nwyddau.

00:21:30 Mae Glyn yn rhoi ei wybodaeth am systemau trydanol ar waith ac yn dechrau gweithio yn Ystafell y Lamp yng nglofa'r Cambrian fel "Gwellwr" (yn debyg i swydd prentis heddiw)

00:26:13 Er nad oedd ganddyn nhw le i gartrefu faciwî, fe wnaeth teulu Glyn ymgymryd â'r dyletswyddau o fwydo merch oedd yn aros yn lleol

00:27:55 Roedd yr Associated Coal Company yn defnyddio gweithwyr fel Glyn, wrth weithio ar yr wyneb fel gwylwyr tân answyddogol; roedd hi’n bwysig gwrando ar y newyddion, yn enwedig ym mlynyddoedd cynnar y rhyfel pan roedd hi’n edrych yn debyg y byddai’r gelyn yn ennill

Manylion cyfweliad

Enw’r Sawl sy’n cael ei Gyfweld
Glyndwr Jones
Enw’r Sawl sy’n Cyfweld
Gareth Gill
Dyddiad y cyfweliad
16/08/2005

Labelau