Gordon White

This item is active and ready to use
Gordon White

Manylion

Teitl
Gordon White
Lle
Rhydfelen
Manylion

Cyfweliad dilynol a gynhaliwyd ar 09/12/2024 - GWRANDEWCH YMA

Trawsgrifiad

00:00:02 Cyflwyniad

00:00:18 Cafodd Gordon ei eni ar 2 Ebrill 1923. Roedd e'n gweithio yng Nglofa'r Albion, Cilfynydd pan ddechreuodd y rhyfel a phenderfynodd ymuno â'r Llynges

00:01:47 Ym 1940, yn 17 oed, ymunodd Gordon â'r Gwarchodlu Cartref; mae’n cofio'r orymdaith ar gyfer Wythnos y Spitfire ym Mhontypridd; ac ymarferion y Gwarchodlu Cartref yn yr ardal

00:4:43 Ymrestrodd Gordon ar 4 Tachwedd 1942; mae’n cofio’r hyfforddiant sylfaenol

00:08:27 Yn ystod ei amser yn y Llynges, doedd Gordon ddim yn aelod o griw llong ond yn hytrach roedd yn ymwneud â badau glanio; 1943 – mae Gordon yn cael ei symud i ranbarth Bitter Lakes, ger Camlas Sŵes, gan weithio fel gwarchodluwr

00:11:01 Mae Gordon yn gwneud ei ffordd i fyny Camlas Sŵes ac ymlaen i Sicily

00:12:27 Mae'r criw yn darganfod corff marw awyr filwr Americanaidd a fu farw yn y dŵr wedi iddo neidio o’r awyren ychydig i ffwrdd o’r tir

00:13:31 Yn Augusta, Sicily, mae Gordon yn dyst i gyrch bomio’r Almaen

00:15:29 Mudo milwyr ac arfau o Sicily i dir mawr yr Eidal

00:17:29 Mae Gordon yn cael ei roi ar "jankers" (Cyfyngiadau ar Freintiau) am 14 diwrnod fel cosb am golli ei "Lyfr Pinc"

00:19:30 Mae Gordon yn cael ei anfon i Brindisi i dreulio'r Nadolig yn gwarchod trenau

00:22:14 Mae Gordon yn cael trafferth wrth groesi'n ôl i Messina

00:24:05 Rhaid i'r milwyr wylio ffilmiau gwybodaeth i'r cyhoedd ynglŷn ag iechyd gyda llau a Chlefyd Gwenerol; mae Gordon yn disgrifio'r cit iechyd rhywiol sy'n cael ei roi i'r milwyr; mae rhai milwyr yn llewygu wrth wylio’r ffilm

00:29:24 Clo; Mae Gordon yn cael ei anafu pan fomiwyd ei fad glanio (LCM 273) ar 17 Mawrth 1944. Torrodd Gordon ei goes a'i arddwrn a chollodd 18 aelod o'r criw eu bywydau. [Diweddglo]

Manylion cyfweliad

Enw’r Sawl sy’n cael ei Gyfweld
Gordon White
Enw’r Sawl sy’n Cyfweld
Gareth Gill
Dyddiad y cyfweliad
11/08/2005

Labelau