00:00:04 Rhagarweiniad
00:00:40 Ganwyd Harold ar 13 Ebrill 1929 yn Aberthin ger y Bont-faen, yn un o naw plentyn
00:02:20 Mynychodd Harold Ysgol y Bont-faen, y Bont-faen; disgyblaeth yn yr ysgol a gemau yn ystod ei blentyndod; chwarae ar y gweunydd
00:04:18 Y radio yn cyhoeddi newyddion am ddechrau'r rhyfel; profiadau tad Harold yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn ei wneud yn falch fod Harold yn rhy ifanc i ymladd
00:05:50 Derbyn mygydau nwy ac ymarfer eu defnyddio nhw yn wythnosol
00:07:37 Cofio'r cyrchoedd bomio ac awyren o’r Almaen yn dod i lawr yn Lake Farm, Heol Saint Athan
00:10:30 Prinder a dogni bwyd yn golygu eu bod nhw'n gorfod tyfu bwyd yn yr ardd
00:12:34 Tad Harold yn dychwelyd adref o'i waith ac yn gwrando ar newyddion rhyfel y diwrnod ar y radio
00:13:19 Polisi blacowt llym; y Gwarchodlu Cartref wedi'u lleoli yn Neuadd Tref y Bont-faen; rhwystrau ffordd lleol ac aelodau'r Gwarchodlu Cartref
00:14:50 Peryglon y blacowt; damweiniau, gyda rhai yn angeuol
00:18:38 Carcharor o’r Eidal yn dianc o Wersyll Carcharorion Rhyfel Island Farm
00:19:33 Roedd sawl milwr Americanaidd wedi'u lleoli yn ardal y Bont-faen yn Llansanwyr, Eglwys Fair y Mynydd ac ardal Bryn Owen, cawson nhw eu croesawu gan y trigolion lleol
00:20:40 Neuadd Dref y Bont-faen oedd canolbwynt yr adloniant, gan gynnwys dawnsiau ac arddangosfeydd sinema, roedd y sinema flaenorol ar Stryd Eastgate wedi llosgi; atgofion cynnar Harold o'r sinema
00:22:57 Carcharorion Rhyfel yn gweithio yn yr ardal leol
00:23:39 Pan oedd yn blentyn, roedd Harold yn ystyried ansicrwydd rhyfel yn ddychrynllyd yn hytrach na chyffrous
00:24:05 Sawl faciwî o Lundain, Caint a Reading wedi derbyn llety yn yr ardal ac wedi integreiddio yn dda, ond roedd rhai yn ofnus o'r da byw
00:26:52 Y dref wedi'i chau ar gyfer dathliadau Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE)
00:27:46 Diweddglo