CRYNODEB
00:00:02 Rhagarweiniad
00:00:29 Atgofion o Ysgol Fabanod a Phlant Iau Pen-y-graig; a dychwelyd i Ysgol Hendre Cafan i ddathlu ei chanmlwyddiant
00:02:49 Gweithgareddau plentyndod – gemau megis hopsgots, “weak horses/strong donkeys”; cael picnic ar y mynydd a nofio yn y ffos
00:04:12 Plentyndod hapus er bod tad Annie wedi bod yn sâl iawn ac yn dibynnu ar y 'papurau pinc' oedd yn cael eu dosbarthu yn unol â disgresiwn swyddog cymorth y plwyf er mwyn eu cyfnewid am nwyddau yn y siop
00:06:54 Gwaith tŷ plentyn, glanhau grisiau gyda thywod a cherrig. Y brodyr a chwiorydd hŷn yn gadael De Cymru ac yn mynd i Lundain
00:09:16 Clywed am ddechrau'r Ail Ryfel Byd ar y radio yn 14 oed ac ymateb i'r newyddion gyda mwy o gynnwrf nac ofn
00:10:36 Dyfodiad y Gwarchodlu Cartref, Wardeiniaid y Cyrchoedd Awyr a Gwylwyr Tân yn ystod y rhyfel; er i'r ardal leol osgoi difrod sylweddol
00:11:45 Gadael yr ysgol yn 16 oed er mwyn gweithio am gyfnod byr mewn ffatri leol cyn mynd at Simmonds Aerocessories Ltd yn Ystad Fasnachu Trefforest. Teithio ar y trên yn golygu codi'n gynnar a defnyddio lampau nwy personol i oleuo'r daith
00:14:41 Bywyd cymdeithasol yn fenyw ifanc yn cynnwys dawnsio yn y llyfrgell a neuadd yr eglwys (ffocstrot a thango'r sipsiwn)
00:15:28 Er bod ei darpar-ŵr yn sglefr-ddawnsiwr brwd ar y llawr sglefrio yn Nhonypandy, roedd yn methu â dawnsio oni bai ei fod ar iâ, felly dyma'r canlyn yn troi o'r dawnsio at deithiau i seddi cefn y sinema; ffilmiau poblogaidd y cyfnod a ffilmiau cyfres y 'penny rush'
00:17:33 Pryder Annie am ddyfod y milwyr Americanaidd oedd yn cael eu croesawu ar y cyfan gan y gymuned ehangach
00:19:43 Dogni a'r Farchnad Ddu; ei mam yn cerdded i Donyrefail i brynu tomatos; pecynnau bwyd o America ar gyfer y glowyr; gweddill y teulu yn peidio â bwyta siwgr er mwyn i'w mam gael mwynhau te melys
00:22:24 Parti diwedd y rhyfel ar Sgwâr Tonypandy. Ei gŵr yn derbyn dirwy am dorri rheoliadau'r blacowt; mae mynd o amgylch Tonypandy yn beryglus yn ystod y blacowt
00:25:51 Seirenau Cyrch Awyr; beicio heibio Gwersyll Carcharorion Rhyfel Fferm yr Ynys ger Pen-y-bont ar Ogwr, sïon bod y Cadlywydd von Rundstedt wedi'i garcharu yno (oedd yn wir)
00:27:49 Diweddglo