TRAWSGRIFIAD CRYNO A RHANNOL
AM WAITH I FENYWOD YN FFATRI NEWYDD 'Fe gymeron ni awenau'r warws gwag yma yn Stryd Jenkins gyferbyn â'r Ffatri Bop… lemonêd. Fe wnaethon ni dynnu popeth allan o'r adeilad, ei addurno a rhoi dodrefn newydd i mewn. Gwnes i hyn o fewn cyfnod o saith diwrnod (BALCH) a bu i ni recriwtio llwyth o fenywod a gosodon ni beiriannau cyfrifeg - tua 200. Roedd gyda ni adran gwasanaethu cerbydau ar y llawr gwaelod, roedd fy mab yn gweithio yno... Daethon nhw ar draws o Wlad yr Haf, ac roedd fy mab arall yn gweithio i SUREVISION (sillafu?) sef y cwmni cebl lleol a oedd yn ceblu'r cwm i gyd, yn darparu teledu i bobl. Roedden ni'n dibynnu ar gebl yn y dyddiau hynny, doedd erialau ddim yn dda yma. Doedd dim modd cael lluniau ar erialau.'
02:00 AWSTRALIA 'Y peth mwyaf anhygoel ... pan ddaethon ni i Harbwr Sydney ... yn ystod y rhyfel ... gwelais long fy mrawd, yr Implacable ... Pan gyrhaeddon ni'r gwersyll tramwy yma es i weld y Prif Swyddog i geisio cysylltu ag ef. Doeddwn i heb ei weld ers dwy flynedd, tair blynedd efallai gan roedd hyn yn hwyr yn y rhyfel. Roedd wedi bod lan i Arkangel gyda'r milwyr Rwsiaidd.
Cefais wyliau ac es i lawr i ymyl y doc a cheisio mynd allan i'r llong hon oedd allan yn y bae. Sylwais fod niwed i flaen y llong ac roeddwn i'n meddwl ei fod wedi ei achosi gan un o'r ymosodiadau Kamikaze ... ond fe wnaeth droi allan ei fod wedi ei achosi gan foroedd garw, moroedd garw iawn, ac roedd y cludwr awyrennau yn fflat, ac roedd i gyd wedi'i dolcio i mewn, ac roedd hi i mewn i gael ei thrwsio.
Es i lawr at y cei a gwelais fod modd i mi fynd allan gyda'r llong bost am 4 o'r gloch, felly es i allan i'r llong, es i ar ei bwrdd a gwelais fod yna nifer o ddynion garw ar ei bwrdd. Holais am fy mrawd, a dywedasant, "Mae e wedi mynd i'r lan!" A fyddech chi'n credu hynny! Felly ces i drafferth yn dod oddi ar y llong, roedd yn rhaid i mi aros am long yn gadael gyda morwyr yn mynd am wyliau cyn i mi allu gadael, felly ni welais ef y diwrnod hwnnw o gwbl, ond y canlynol diwrnod roedd ganddyn nhw adeilad newydd roedden nhw'n ei godi ar gyfer milwyr Prydeinig, o'r enw'r Ganolfan Brydeinig, fel y Sefydliadau'r Llynges, y Fyddin a'r Awyrlu (NAFFI). Es i fyny a holais amdano yno a dywedason nhw 'mae modd i ni eich defnyddio, ar gyfer cyhoeddusrwydd' FELLY TREFNWYD I'R BRODYR GWRDD Â CHAEL TYNNU EU LLUN, WEDI LLWYFANNU FEL BOD EI FRAWD YN ESGUS CAEL SYNDOD YN SIOP Y BARBWR. ROEDD Y LLUN YN Y 'SYDNEY SUNDAY SUN'. ROEDD YN CADW CAEL EI ADNABOD WEDI HYNNY. ROEDD YN ENWOG AM BUM MUNUD.
‘Cawsom ddeg diwrnod o wyliau a dreuliasom i fyny yn y Mynyddoedd Glas… cefn gwlad hardd… Cawsom ni amser da… Mae hyn yn fy arwain at ail gyd-ddigwyddiad.’
STORI AM LONG ALMAENIG YN CAEL EI WELD ODDI AR LIZARD POINT YNG NGHERNYW 'Ar Noswyl Nadolig yn Lloegr lawr ar y Lizard Point roeddwn i'n caru fy ngwraig ... a chawsom ddiwrnod heulog braf... ac roedden nhw wedi trefnu helfa drysor... Roedden ni'n mynd o gwmpas yr holl bentrefi bach hyn yn dilyn cliwiau … Roedd panig sydyn … mae’n debyg roedd llong Almaenig allan yn y sianel … Lansiwyd holl fosgitos yr RAF o Drebanock (sillafiad?) …i suddo’r Sharnhorse (sillafiad?) …Yn anffodus …roedd niwl trwm yn gwneud y llong yn anweledig. Roedd yn rhaid i'r awyrennau droi yn ôl a chwympodd un…A phwy ddylwn i gyfarfod ond mam a thad y peilot hwnnw mewn caffi yn Awstralia… Ro’n i yn y caffi yn disgwyl i fy mrawd ddod i’r lan…lle mawr… prin neb i mewn yna … daeth y ferch fach ataf a dweud a hoffech chi ddod i ymuno â ni yn hytrach nag eistedd ar eich pen eich hun … dywedais fy mod yn dod o Orllewin Lloegr. FE WNAETHON NHW DDWEUD WRTHO FOD EU MAB WEDI EI LADD AR ÔL I'W AWYREN GWYMPO, ‘a bu’n rhaid i mi ddweud wrthyn fy mod wedi bod yn dyst i hyn.’
DIWEDD