TRAWSGRIFIAD CRYNO A RHANNOL
Dyddiad geni: 23 Gorffennaf 1933
‘Ces i fy ngeni yn Edmondstown... gartref yn Edmondstown… Roedden ni’n bump o blant – roedd gen i ddau frawd yn hŷn na fi a dwy chwaer yn iau na fi. Rydw i'n gallu cofio'n glir pan ddywedodd fy nhad wrthyf i fod y rhyfel wedi dechrau, oherwydd roedd gyda ni radio fawr nawr ar ben y gist ddroriau wrth ymyl y wal sy'n mynd y tu ôl i'r grisiau ac roedd yn rhaid i ni gymryd batris i lawr yno bob amser. Roedd yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cadw'r batris wedi'u llenwi... Roeddwn i tua chwech oed ond dwi'n cofio…
Roedd fy nhad yn gweithio gyda Phwll Glo Cilely... ostler yn gofalu am y ceffylau... Roedd yn gweithio'r sifft nos drwy'r amser…Byddai’n cerdded i lawr yno, yn gorfod mynd lawr y trac ac roedd Cilely lawr yn y coed yno. Roedden ni bob amser yn gallu dweud erbyn pryd roedd y dynion yn dod adref a phan oedd y dynion yn dechrau eu shifft. Doedd dim rhaid i ni gael cloc yn y dyddiau hynny.’
C - FYDDAI'N DOD ADREF I GAEL BATH?
'O fyddai' [CHWERTHIN]
C - OEDD E'N ACHOSI LLAWER O WAITH?
'O ie, o ddylwn i wenu [CHWERTHIN] ... A chi'n gwybod y byddai fy nhad yn dod adref yn fudr a byddai bob amser yn cael ei fwyd cyn iddo gael ei fath, a byddai fy mam bob amser yn ein cadw ni i fyny i weld fy nhad. Doedden ni byth yn mynd i'r gwely'n gynnar pan oedden ni'n blant, a bob amser yn aros nes bod Dadi'n dod, a Dad bob amser yn cael bath ar ôl iddo gael ei fwyd, a dwi'n cofio byddai mam bob amser yn rhoi papur newydd yr Echo lawr fel ei fod ddim yn baeddu'r lliain bwrdd. Byddai'n golchi ei ddwylo, ond byddai'n cael bath bob amser ar ôl i ni'r plant fynd i'r gwely.
Roedd gyda ni le tân hen ffasiwn felly roedd fy mam bob amser yn cael bwced o ddŵr yn barod ar gyfer pan fyddai fy nhad yn dod adref, yn barod iddo gael bath.’
C – DOEDD DIM LLAWER O BREIFATRWYDD YN Y DYDDIAU HYNNY?
‘Na, dwi’n meddwl mai dyna pam roedd mam yn arfer dweud; ‘Ar ôl i chi gael eich swper a Dadi wedi cael ei swper, ewch i ffwrdd i’r gwely nawr.’’
C – I BA YSGOL AETHOCH CHI, AUDREY?
‘Trewiliam, ac rydw i'n gallu cofio fy niwrnod cyntaf yn yr ysgol yn glir. Dwi'n meddwl mai dim ond rhyw dair a hanner i bedair oed oeddwn i. Dwi'n cofio fy mam yn mynd â mi i mewn ac roedd ceffyl siglo mawr! Mae hynny’n aros yn fyw yn fy meddwl a dyna oedd fy niwrnod cyntaf yn yr ysgol.’
C - YDYCH CHI'N GALLU COFIO UNRHYW ATHRAWON?
‘Miss Harris… Blynyddoedd wedyn, roedden ni yn yr ysbyty gyda’n gilydd, ac roedd hi’n dweud wrtha i fy mod i’n ferch fach dda [CHWERTHIN]… roedd Miss Harris yn byw ym Mhen-y-graig.’
C – PA FATH O GEMAU OEDDECH CHI'N EU CHWARAE PAN OEDDECH CHI'N BLENTYN?
'Ooooh, wel fy ffefryn… Roedden ni'n byw... lawr y ffordd o lamp nwy a fy hoff beth i oedd cael darn o raff a siglo o'i amgylch. Doedd dim llawer o fysiau yn y dyddiau hynny - roeddech chi'n gwybod faint o'r gloch roedd bysiau'n dod - felly bydden ni'n chwarae tennis ar y stryd, byddai gyda ni esgil (hopscotch) ar y palmant, ac roedd yn wych. Rydw i'n gallu dweud yn onest ein bod ni wedi cael mwy o hwyl nac mae plant yn cael nawr ... Rydw i'n gallu dweud yn onest, a dydw i ddim yn bod yn ymffrostgar, roeddwn i'n ferch fach dda, doeddwn i ddim yn ddrwg. Yr unig beth oedd, doeddwn i ddim yn hoffi pan o'n i'n blentyn, a dwi'n gwybod eich bod chi'n mynd i chwerthin am hyn, ond fy enw i oedd Audrey May ac roedd mam yn arfer dod allan o'r drws a byddai'n dweud 'Audrey May! 'I mewn!’, ac ro’n i’n arfer teimlo’n ofnadwy pan oedd mam yn fy ngalw i’n Audrey May [CHWERTHIN], ‘Dere 'mlaen!, Ti’n gwybod, mewn!’ [CHWERTHIN]. ‘Mae gen i atgofion hyfryd o pan o’n i’n blentyn…atgofion hyfryd’.
04:30
C – FELLY RYDYCH CHI'N GALLU COFIO DIWRNOD CYNTAF Y RHYFEL?
‘Ydw, rydw i'n gallu cofio fy nhad yn dweud wrthyf ‘Nawr, rydyn ni mewn rhyfel, ac roedd yn ceisio dweud wrthyf, yn ceisio dweud wrthyn ni beth oedd yn mynd i ddigwydd. Merch dadi oeddwn i, merch dadi go iawn ac roedd yn ceisio dweud wrthyn ni beth oedd yn mynd i ddigwydd ac roedd yn rhaid i ni gyd fynd i lawr i'r ysgol... a chawson ni fygydau nwy. [SÔN AM EI CHWAER OEDD YN FABAN YN CAEL EI GOSOD I MEWN I FWGWD NWY BABAN A'I CHAU I MEWN IDDO].
Roeddwn i bob amser yn ei gario ar fy ysgwydd i’r ysgol. Roedd yn rhaid i chi i gyd ei gymryd, roeddech chi'n ddrwg os doeddech chi yn mynd ag ef i’r ysgol, dwi’n cofio hynny.’
05:00 ‘'Dwi'n cofio un cyrch awyr arbennig yn glir a’r hyn a ddigwyddodd, boddodd y bachgen drws nesaf, Donald Brooks oedd ei enw, a boddodd yn y porthwr ym Mhwll Glo Cilely. A dwi'n cofio'r diwrnod... roeddwn i tua wyth neu naw... Roeddwn i yn yr ysgol uwch bryd hynny. Dwi’n cofio ein bod ni wedi cael cyrch awyr ac roedden ni'n arfer gorfod mynd i dŷ Mrs Turner… Rhif dau, Stryd yr Ysgol. Os oedd cyrch awyr roedd rhaid mynd i dŷ rhywun [FYDDECH CHI DDIM YN MYND ADREF?]. Byddech chi'n cael eich clustnodi i fynd i dai gwahanol ger yr ysgol a bu'n rhaid i mi fynd at Mrs Turner yn rhif dau. Wel digwydd bod roedd cyrch awyr ar ddiwrnod yr angladd ond dwi'n cofio nawr Mrs Turner yn gadael i ni fynd at y drws i weld y cynhebrwng yn mynd heibio a holl fechgyn yr ysgol yn cerdded y tu ôl iddo… Wedyn, wrth gwrs, dwi'n cofio'r ffrwydrau tir (landmines) yn cael eu gollwng. Byddwn i byth yn gwybod sut fethon nhw daro Pwll Glo Cilely! Gan fod Pwll Glo Cilely yma, yna roedd rhyw fath o dwmpath (?) yna. Roedd yna lwybr a thipyn o gae, a disgynnodd y ffrwydryn yno… Mae’n rhaid mai tua 1942-43 oedd hynny? Roedd cyrch yn ystod y nos ac roedd fy nhad yn y gwaith! Roedd gyda ni fwrdd mawr yng nghanol y gegin ond hefyd o dan y grisiau roedd cadair gwely roeddech chi'n gallu ei thynnu allan gyda'r holl glustogau ymlaen. Petai ni'n cael cyrch awyr byddai'n ein rhoi ni i mewn yno ond wn i ddim beth ddigwyddodd noson yma, doedden ni ddim yno a dwi'n cofio nawr roedd y sŵn yn ofnadwy a'r ffenestri i gyd yn crynu! Ac fe wnaeth fy mam ein taflu ni i gyd o dan y bwrdd. Byddaf i byth yn gwybod sut fethodd y pwll glo! ...Ac roedd fy nhad yn gweithio yno!’
[Y DIWRNOD CANLYNOL AETH Y PLANT I FYNY I WELD Y TWLL MAWR O'R BOMBIO]
08:00 ROEDD DAD YN WARDEN CYRCH AWYR (ARP). 'Ar y penwythnos, byddai'n mynd allan i wneud ei waith ARP. Dwi'n cofio eu bod nhw'n arfer mynd i ymarfer ar fore Sul ... a lle'r oedden ni'n byw roedd clwt o wyrdd o flaen y tai. Un bore dydd Sul roedd dyn yn gorwedd tu allan i'r drws ar y glaswellt a dywedodd dyn wrthyf i 'Paid â siarad gyda fe mae e i fod wedi marw!' [CHWERTHIN] Ie mae gen i lawer o atgofion o’r rhyfel.’
C – BETH AM Y BLACOWT – YDYCH CHI'N EU COFIO NHW?
08:14 'O ydw wir, roedd fy mam-gu yn byw ar waelod y stryd ac roedd hi'n dod i fyny bob nos Sadwrn. Roedd Mrs Burman ... ac wedyn fy mam yn arfer mynd â hi adref ac rydych chi'n gwybod bod dim hawl i chi gael fflachlamp... Dwi ddim yn gwybod sut oedd hi'n llwyddo, roedd hi'n arfer mynd a hi adre yn y tywyllwch ac weithiau ro'n i'n arfer mynd efo mam. Un tro cefais fraw yn y blacowt, fy mrawd oedd yn gyfrifol, roedd e'n erchyll, digwyddodd pan ddihangodd y carcharor rhyfel o Ben-y-bont ar Ogwr? Es i ddim lawr gyda mam y nos Sadwrn yma i fynd a mam-gu adref, ac aeth fy mrawd allan i rywle, ac roedd o ryw dair blynedd yn hŷn na fi, a daeth yn rasio i mewn i'r dramwyfa a dechrau siarad Almaeneg! A meddyliais ‘Duw, Duw! Roedd y carcharorion wedi torri i mewn i fy nhŷ! [CHWERTHIN] A fy mrawd oedd e!'
MILWYR AMERICANAIDD (GIs) YM MHENRHIW-FER
09:00 'Dwi'n cofio'r GIs, roedden nhw draw ym Mhenrhiw-fer, yn y cae mawr... lle mae'r gylchfan nawr... Roedden nhw mewn gwersyll mawr yno am ryw ddau neu dri diwrnod ac roedd y merched i gyd yn cerdded lan yno fraich ym mraich gyda'r GIs... Daethon nhw o hyd i ddigon o ferched lleol, roedd fy nghyfnither yn un ohonyn nhw dwi'n gallu gweld nawr ... ond roedd un ferch, yn byw tua deg drws i lawr oddi wrthyf i - fe briododd un o'r GIs ac aeth hi allan yno i fyw ie, rydw i'n cofio hynny...
Dwi’n meddwl beth ddigwyddodd, roedden nhw yno un funud, yna codais y bore wedyn ac roedden nhw wedi mynd, ond roedd y cyfan drosodd ym Mhenrhiw-fer ar y cae.’
DOGNI
10:00 'Doedd gyda ni ddim losin na siocled fel sydd gyda nhw nawr, a chwponau dillad. Allech chi ddim mynd i unlle oni bai bod gyda chi gwponau i'w defnyddio. Dwi'n meddwl oedd yn anodd iawn i fy mam a fy nhad a dweud y gwir achos roedd pedwar ohonom ni. Roedd pedwar ohonom ni bryd hynny oherwydd cafodd fy chwaer ieuengaf ei geni yn ddiweddarach, ond dwi'n meddwl roedd yn anodd iawn. Ond dyna ni… Roedden ni’n iachach bryd hynny nag ydyn ni nawr. Dw i'n meddwl.
C – AETHOCH CHI ERIOED ALLAN I SIOPA NEU AI EICH MAM OEDD YN GWNEUD Y CYFAN?
‘Na es i allan unwaith gyda fy mrawd. O'n i'n arfer mynd lawr y Coop gyda mam ond dwi'n cofio nawr roedden nhw'n gwerthu rhywbeth yn Nhonypandy, dwi'n meddwl mai blawd oedd e, a dywedodd mam, 'Cer di a dy frawd Emrys i lawr a sefyll yn y ciw ar wahân ac ewch i mewn ar wahân, ond gan roeddwn i mor ifanc, daeth i'm tro i a dywedodd y bonheddwr wrthyf, 'beth wyt ti eisiau nawr?' a dywedais ‘Dw i eisiau’r un peth â fy mrawd!’ a dywedodd ‘does mond un i bob teulu.’ [CHWERTHIN] Fe wnes i ollwng y gath o'r cwd... dwi'n meddwl roedd ar gyfer gwneud bara [CHWERTHIN], wel pan gyrhaeddais i'n ôl fe ges i stŵr oddi ar fy mam – 'Pam wnes ti ddweud dy fod gyda dy frawd?'
11:30 AM BRYDAU BWYD
‘Wel bydden ni’n cael uwd i frecwast, ac wedyn bydden ni’n cael brechdan neu rywbeth i ginio pe baen ni adre, er weithiau bydden ni’n cael cinio ysgol. Ond wedyn roedd mam drwy'r amser yn arfer gwneud llawer o gawl – a byddai ganddi gwningen a byddai’n gwneud stiw cwningen hyfryd …allan o ddim byd ac wedyn bydden ni'n cael pryd o fwyd hyfryd.
ROEDD GYDA NI RANDIR ‘ac roedd fy nhad yn cadw ieir... yr unig beth oedd roedden ni'n torri ein calonnau pan oedd yn lladd yr ieir! [CHWERTHIN] …a cholomennod …dwi wedi sefyll am oriau allan yn y cefn gyda’r tun yn dweud ‘Gub, gub gub’ i gael y colomennod i mewn … ond fe wnaethon ni wneud yn iawn, chwarae teg, fe wnaethon ni'n iawn, dwi’n meddwl beth bynnag. Roedd fy mam a fy nhad yn wych sut roedden nhw’n ymdopi, ond allech chi ddim cael losin, wel byddech chi'n cael losin yn anaml iawn.’
C – OEDD HI'N AMSER CYFFROUS?
CYMRYD SAIB - NEWID GOSLEF 'Wel, na. Ddim mewn gwirionedd. O pan oeddwn i'n ferch fach roeddwn i'n arfer teimlo trueni dros bobl a phethau felly, a pheth arall roeddwn i'n arfer gorfod ei wneud oedd ysgrifennu llythyrau - doedd fy mam-gu ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu. Roedd ei mab ieuengaf - brawd ieuengaf fy mam - yn y rhyfel, ac roeddwn i'n arfer mynd i lawr yno ac ysgrifennu llythyrau at ei mab, roedd yn yr wythfed fyddin gyda Monty, a bu'n rhaid i mi ysgrifennu llythyrau iddi at ei mab oherwydd doedd fy mam-gu ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu. Roedd hi'n arfer ennill ei bywoliaeth trwy gymryd golchi i mewn. Roedd hi'n cymryd golchi i mewn nes ei bod hi bron yn naw deg, ac roeddwn i'n arfer gorfod cymryd y cyfan yn ôl ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn. Ond alla i ddim alla i ddim dweud eu bod nhw'n amseroedd ofnadwy o anhapus oherwydd roedden nhw'n amser hapus, roedd pawb - SAIB - yn edrych ar ôl ei gilydd bryd hynny.’
13:29 ‘Dwi'n gallu cofio’r Arglwydd Haw Haw ar y radio, yn dweud ei fod yn mynd i fomio rhai mannau, rhai nosweithiau, wyddoch chi. Roedden ni'n arfer aros i fyny a gwrando ar hynny!… Doedden ni ddim yn gallu aros i fyny bob nos, dim ond rhai nosweithiau roedden ni'n cael aros i fyny ac roedden ni'n meddwl ei fod yn wych! Gwrando ar Arglwydd Haw Haw! Gwych. [CHWERTHIN]
C – YDYCH CHI'N COFIO DIWEDD Y RHYFEL?
'O ie, ydw, dwi'n gallu cofio Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop o roedd hi'n hyfryd. Dwi'n gallu cofio un o frodyr fy mam, roedd fy ewythr yn blismon yng Nghasnewydd a dwi'n cofio i ni gael coelcerth anferth lan ar y cae pêl-droed. Roedd fy ewythr yno. Fy ewythr, Jim Cayman, a drefnodd y cyfan, a'r canu i gyd. O dwi'n cofio'r cyfan, o roedd yn hyfryd. Roedd pawb yn gofalu am ei gilydd bryd hynny... Doedd gan bawb ddim llawer ond gwnaethon nhw ni te allan o'r nesaf peth i ddim, cafodd pob un ohonom ni'r plant barti.'
C - AM FAINT AETH Y DATHLIADAU YMLAEN?
‘O tua dau ddiwrnod! – Ie, felly i ni blant; welsoch chi neb yn feddw na phethau felly… Roedd y dathliadau'n wahanol i’r hyn ydyn nhw nawr… Yna pan ddaeth y carcharorion rhyfel adref…roedd yna ŵr bonheddig drws nesaf i ni oedd yn garcharor rhyfel yn Japan, dwi'n gallu cofio fe’n dychwelyd adref. Roedd ei fam wedi gwneud afalau taffi i ni ac roedden ni i gyd yn eistedd allan yn y blaen yn aros i weld o'n dod adref. O roedd yn hyfryd…
Roedd yn edrych yn denau iawn a phethau felly, ond doedd ddim yn gallu dod drosodd bod pawb wedi dod allan! Daeth adref ar y bws a daeth oddi ar y Black Diamond a dyna oedden ni i gyd, i gyd yn bloeddio. Ie roedd yn hyfryd a dwi'n cofio hynny hefyd.’
DIWEDD