Ceinwen Baldwin

This item is active and ready to use
Ceinwen Baldwin

Manylion

Lle
Llanharan

Trawsgrifiad

CRYNODEB

00:00:04 Rhagarweiniad

00:00:34 Cafodd Ceinwen ei geni yng Nghefn Cribwr (yn agos i Ben-y-bont ar Ogwr) yn 1918

00:01:18 Un deg un o blant yn byw dan yr un to, yn mwynhau plentyndod hapus

00:03:30 Diwrnodau ysgol yng Nghefn Cribwr, yn cofio'r athrawon cynradd

00:05:53 Yn mynychu'r Capel Bedyddwyr Calfarî yng Nghefn Cribwr, yn dianc rhag y capel gyda'r nos i gwrdd â bechgyn yn y Pîl

00:08:35 Yn gadael yr ysgol yn 14 oed i weithio fel gofalwraig i efeilliaid. Mae cwrdd â'r Fari Lwyd o bosibl ar ei thaith gartref yn y tywyllwch yn codi ofn arni

00:09:30 Ar ôl dadlau â'i brawd, mae Ceinwen yn derbyn swydd yn Llundain fel morwyn gegin i'r dduges Grafton; disgrifiad o'r dyletswyddau

00:11:44 Mae Ceinwen yn dychwelyd i Gymru ar ôl dwy flynedd o hiraethu. Ond oherwydd sefyllfa ariannol ei thad, sy'n ddibynnol ar brawf modd, mae'n rhaid gweithio ar gyfer ddau feddyg yn ninas Birmingham

00:13:47 Mae'n hiraethu unwaith yn rhagor ar ôl mwynhau gwyliau yng Nghefn Cribwr, ac felly mae'n symud yn ôl i Gymru

00:15:21 Mae Ceinwen yn gweithio yng nghartref y prif beiriannydd, ar faes ysbyty iechyd meddwl Angelton, Sir Forgannwg

00:15:55 Mae Ceinwen yn priodi ym mis Mai 1940; roedd chwaer ei chyflogwr yn rhan o ddamwain ofnadwy

00:18:00 Mae Ceinwen yn ail ystyried ei phenderfyniad o fagu teulu mawr; ar ôl blynyddoedd o fyw yn y Rhws, mae'n prynu tŷ yn Llanharan am £300. Mae ei gŵr yn gwneud nifer o welliannau i'r tŷ

00:20:32 Mae'n rhaid i Ceinwen weithio yn y ffatri arfau rhyfel ym Mhen-y-bont ar Ogwr; gwaith peryglus; y materion ymarferol o fod yn fam sy'n gweithio

00:24:32 lYn dilyn y rhyfel, mae Ceinwen yn dod o hyd i waith yn y llaethdy, Llanharan

00:26:31 Doedd dim rhaid i famau weithio yn ystod y rhyfel; cofio ymosodiad o'r awyr, Gwanwyn 1941; swyddi eraill Ceinwen yn yr ardal

00:29:05 Carcharorion rhyfel yn dianc o'r carchar rhyfel, Island Farm, Pen-y-bont ar Ogwr

Manylion cyfweliad

Enw’r Sawl sy’n cael ei Gyfweld
Ceinwen Baldwin
Enw’r Sawl sy’n Cyfweld
Gareth Gill
Dyddiad y cyfweliad
12/12/2005

Labelau