CRYNODEB
00:00:04 Rhagarweiniad
00:00:36 David yn cael ei eni yn y Graig-wen, Pontypridd yn 1925, cyn i'w deulu symud i Bwll-gwaun, Pontypridd
00:01:16 David eisiau bod yn of ac wedi gweithio yn efail Gibson, Pwll-gwaun, o pan oedd yn ddeg oed tan oedd yn bedwar ar ddeg oed, cyn i Mr Gibson ganfod swydd iddo yn Efail Tŷ Mawr. Fe arhosodd yno am un ar bymtheg o flynyddoedd cyn symud i ffyrnau golosg Nantgarw
00:02:53 O fewn ychydig wythnosau o ddechrau’r gwaith, mae’n clywed am ddechrau'r Ail Ryfel Byd ar y radio
00:03:24 Diddordeb cynnar mewn gwleidyddiaeth gan fynychu achlysur annerch gan Oswald Mosely mewn parc oddi ar Heol Berw, Pontypridd, yn 1936/37
00:05:59 Y diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn parhau ac mae David yn cael ei gyflwyno yn bersonol i'r Blaid Lafur gan Jim Griffiths, Ysgrifennydd Gwladol y Gwladychfeydd, ac yn ymuno â Ffederasiwn Glöwyr De Cymru hefyd, gan ddod yn Drysorydd ac yna'n Gadeirydd ar Gyfrinfa Nantgarw
00:07:44 Yn 15 oed, mae David yn cyfrannu at yr ymdrech ryfel drwy ddod yn Wyliwr Tân yn Ysgol Fabanod Pwll-gwaun
00:08:10 Er iddo geisio ymuno â'r fyddin, mae David yn cael ei alw i ymuno â'r Gwarchodlu Gartref yn 1942 ac yn cofio’r lleoliadau a'r hyfforddiant roedd wedi'i dderbyn yn yr ardal leol
00:10:30 David yn dod ar draws unigolyn amheus tra'r oedd ar ddyletswydd â'r Gwarchodlu Gartref, ac yn ei ddal
00:12:26 Cofio mynd i'r maes saethu mewn chwarel lleol
00:13:38 Gorymdaith 'Wythnos Saliwtio Milwr'
00:14:01 Ymdeimlad o obaith yn cymryd lle ofn yn 1942 wrth iddyn nhw deimlo eu bod nhw'n ennill y rhyfel. Ardal y Graig-wen, Pontypridd, yn cael ei bomio
00:15:33 Lleoliadau'r safleoedd gynnau a goleuadau chwilio yn yr ardal
00:16:40 Dogni a'r farchnad ddu yn darparu coes o gig mochyn
00:18:30 Blacowt yn ystod y rhyfel
00:19:14 Bod yn gyfrifol am safle gwn-peiriant 'Pillbox' ar Ffordd Rhondda yn rhan o'i ddyletswyddau
00:20:56 Cofio'r Bevin Boys
00:24:41 Adloniant ym Mhontypridd yn ystod y rhyfel, sawl sinema a Neuadd Ddawns y Star
00:25:45 Milwyr Americanaidd yn ffraeo a rhagor ohonyn nhw'n cyrraedd
00:29:00 Twnnel lleol yn cael ei ddefnyddio i storio gynnau a thanciau Americanaidd