CRYNODEB
00:00:03 Effaith D-Day a gwrth-ymosodiad disgwyliedig gan yr Almaenwyr
00:01:25 Cyn i'r Americanwyr gyrraedd, roedd milwyr Prydeinig oedd yn cael eu hadnabod fel 'Polar Bears' wedi'u lleoli ym Mhontypridd
00:02:12 Roedd y milwyr Americanaidd yn defnyddio unrhyw lo oedden nhw'n gallu ei ganfod er mwyn cadw'n gynnes, hyn yn gwylltio’r sarjant glofeydd lleol
00:03:18 Y glöwyr yn elwa ar fwyd dros ben oedd wedi'i adael gan yr Americanwyr wrth iddyn nhw adael Cymru a brwydro yn Ewrop
00:04:28 Cyflog gwael, o'i gymharu â diwydiannau eraill yn arwain at streic y glowyr yn ystod y rhyfel yn 1942
00:05:44 Pan oedd yn brentis yn Efail Gibson, David yn 'paentio' coesau merched lleol am nad oedd hosanau hirion ar gael
00:06:45 Faciwis yn cyrraedd yr ardal ac ymweliad â Bryste wedi i’r ddinas gael ei bomio'n drwm
00:08:33 Rocedi Doodlebug yn cael eu nodi yn ffrwydradau nwy yn unol â phropaganda'r Llywodraeth; ymdeimlad cryf o 'beidio ag ildio' a buddugoliaeth y Rwsiaid yn Stalingrad yn rhoi gobaith
00:11:16 Menywod, gan gynnwys mam David, yn mwynhau gwaith â chyflog da yn y ffatri arfau ym Mhen-y-bont ar Ogwr
00:12:30 Awyren fomio Almaenig oedd wedi'i tharo yn cael ei harddangos y tu allan i Amgueddfa Caerdydd