Prosiect Cofebion Rhyfel
Prosiect Cofebion Rhyfel
Fe gafodd y Prosiect Cofebion Rhyfel ei lansio ym mis Tachwedd 2023 gyda'r bwriad o ddigideiddio pob Cofeb Rhyfel yn Rhondda Cynon Taf. Yn hytrach na thrawsgrifio pob enw sydd ar y Cofebion Rhyfel yn unig, nod y prosiect yw rhoi gwybodaeth sylfaenol ynghylch pob person sydd wedi’u henwi, er enghraifft eu rhif gwasanaeth, eu cyfeiriad olaf, a lleoliad eu bedd. Y prosiect hwn yw'r cyntaf o'i fath ar y raddfa yma'n y DU, ac i wireddu'n hamcanion, mae arnom ni angen cefnogaeth nifer helaeth o wirfoddolwyr.
Mae carfan Gwasanaeth Treftadaeth RhCT wedi gweithio gyda mwy na 200 o wirfoddolwyr yn rhan o'r prosiect hyd yn hyn, ac rydyn ni'n eich gwahodd chi i ymuno â nhw. Helpwch ni i ymchwilio i straeon pobl ddewr Rhondda Cynon Taf a gollodd eu bywydau yn brwydro, a helpwch ni i adrodd eu hanes.
- Does dim angen profiad arnoch chi – bydd hyfforddiant ar gael.
- Fe allwch chi wirfoddoli eich amser fel mae'n eich siwtio chi.
- Mae croeso i unigolion a grwpiau.
- Bydd canlyniadau eich ymchwil yn ymddangos ar wefan Ein Treftadaeth RhCT.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ac i gymryd rhan, anfonwch e-bost i: