Prosiect Cofebion Rhyfel
Cofeb Blits Cwm-parc
Mae Cofeb Blits Cwm-parc wedi'i lleoli ar Heol y Parc, Cwm-parc, Treorci. Mae'r gofeb yn coffáu'r rheiny a fu farw yn dilyn cyrch bomio gan Luftwaffe yr Almaen yn ystod y nos ar 29 Ebrill 1941. Cafwyd effaith ddinistriol ar y pentref bychan a'r gymuned, a newidion nhw am byth.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd cymoedd glofaol De Cymru, er eu bod nhw'n hanfodol i ymdrech rhyfel Prydain, wedi cael eu hystyried yn ardal a fyddai'n osgoi'r bomio. Anfonwyd miloedd o faciwîs o Loegr i'r cymoedd i'w cadw'n ddiogel.
Mae'r rheswm pam y gollyngwyd y bomiau ar Gwm-parc y noson honno yn ddirgelwch, ond mae'n debygol roedd awyrennau’r Almaen yn ceisio ysgafnhau eu llwyth cyn dychwelyd i'w gorsaf.
Mae cofnodion yr Archifau Cenedlaethol yn awgrymu bod naw ardal arall, yn ogystal â Chwm-parc/Ystrad a Chaerdydd, wedi cael eu bomio ar noson 29 Ebrill 1941. Yr ardaloedd oedd Cefn-coed-y-cymer, Blaengwynfi, Coety, Pen-coed, Y Bont-faen, Y Barri, Llansanffraid-ar-Elái, Radur a Chaerffili.
Mae hanesion gan bobl oedd yno ar y pryd yn nodi bod y bomiau cyntaf wedi taro Cwm-parc rhwng 10.30pm ac 11pm. Er i rai bomiau lanio ar ochr y mynydd neu fethu â ffrwydro, ffrwydrodd tri bom gan achosi difrod nad oedd modd ei drwsio; roedd y pentref yn llosgi'n ffyrnig mewn ychydig funudau.
Roedd bomiau ffrwydron wedi bwrw Teras y Parc a Chapel Salem ynghyd â Stryd Treharne Uchaf. Cafodd rhifau 8 - 12 i gyd eu dymchwel. Ffrwydrodd ffrwydryn parasiwt uwchben 51 - 52 Stryd Treharne gan ddinistrio tai yn Heol y Parc. Dinistriwyd tai ar Deras y Parc a Theras Morgan hefyd.
Lle saif y gofeb heddiw roedd safle 10 tŷ na chafodd eu hailadeiladu (rhifau 49 i 58 Heol y Parc), a adwaenir yn lleol fel y ‘bombed houses’.
Cafodd y pedwerydd bom ei ollwng 3 milltir i lawr y ffordd o Gwm-parc, gan daro Llyfrgell Ystrad a lladd Mrs Roach, gwraig y Llyfrgellydd lleol. Roedd hi wedi dychwelyd i’r fflat ar ôl bod i Dop y Deri gyda'i gŵr a'i mab yn gwylio'r bomiau'n goleuo awyr y nos.
Roedd yn rhaid i tua 770 o bobl adael eu tai gan eu bod nhw wedi'u difrodi. Daethpwyd o hyd i lety i bawb erbyn prynhawn 30 Ebrill.
Lladdwyd 28 o bobl ddiniwed y noson honno, gan gynnwys 4 o blant oedd yn faciwîs o ardal Llundain. Cafodd y digwyddiad yma effaith fawr ar y gymuned. Cafodd sawl cenhedlaeth eu lladd mewn rhai teuluoedd. Collodd un teulu 9 aelod o'r teulu.
Cafodd gwasanaeth crefyddol ei gynnal yng Nghapel y Bedyddwyr Cymraeg Salem ar 5 Mai 1941 am 2.45pm cyn y claddu torfol ym mynwent Treorci.
Ar 5 Mai 1941, am 2.45pm, cynhaliwyd gwasanaeth yng Nghapel y Bedyddwyr Cymraeg Salem. Wedi hynny, cafodd 20 o sifiliaid a 4 o filwyr (3 aelod o’r Gwarchodlu Cartref ac 1 Cwnstabl Gwirfoddol) eu claddu ym Mynwent Treorci. Byddai angladd y rheiny a gollodd eu bywydau yn aros yng nghof aelodau’r pentref am byth. Cafodd lorïau eu defnyddio i gludo'r eirch i Fynwent Treorci.
Yr un diwrnod, claddwyd sifiliad arall ym Mynwent Pen-rhys. Claddwyd y 3 arall y diwrnod canlynol ym Mynwent Trealaw (Cwnstabl Rhyfel Wrth Gefn yr Heddlu), Mynwent Treorci (Nyrs y Groes Goch Brydeinig) a Chapel Blaenwaun yn Llandudoch, Sir Benfro.
Ar ôl y Rhyfel, ddydd Sul 14 Tachwedd am 3pm, cafodd gwasanaeth coffa ei gynnal yn Llyfrgell a Sefydliad Cwm-parc i’r rheiny a fu farw. Er mwyn cael cofeb barhaol, cafodd cloc dau wyneb wedi’i oleuo ei ddadorchuddio gan fachgen ifanc o'r enw Colin Harries. Cafodd ei achub o weddillion ei dŷ yn Stryd Treharne wedi’r bom.
I grynhoi, ysgrifennodd Llysgennad America i Brydain, John G Winant, yn ei lyfr, 'A Letter from Grosvenor Square', gan ddisgrifio ei ymweliad â Chwm-parc yng ngwanwyn 1941 yn fuan ar ôl y bomio:
'We walked through the village. Small houses had been ruined and the debris scattered untidily along the street. We had just arrived in the late afternoon. The miners had just returned from the day shift in the pits. They and their wives gathered around us and, without ceremony, sang in Welsh their national songs. These people are tuned to music and their lovely voices lifted us from the scene of smashed homes into a world of beauty of their own making’.
Cafodd Cofeb Blits Cwm-parc ei dylunio a'i hariannu gan y grŵp cymunedol lleol ‘Prosiect Cofeb Blits Cwm-parc’ gyda chymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Cafodd y gofeb ei dadorchuddio yn swyddogol ar 30 Ebrill 2022. Diolch i'r gymuned leol am ei hymroddiad i sicrhau bod y digwyddiad yma'n cael ei gofio a bod bywydau sifiliaid yn cael eu coffáu.
Ffynonellau:
Gwybodaeth wedi'i darparu gan R. Tidy, Pwyllgor Cofeb Blits Cwm-parc