Prosiect Cofebion Rhyfel
Enwau Rhyfel Gartref Sbaen - Rhondda Heritage Park
Roedd Rhyfel Cartref Sbaen (1936-1939) yn foment hollbwysig yn hanes yr ugeinfed ganrif. Cafodd miloedd o bobl eu denu i ymuno â'r Brigadau Rhyngwladol o bob cwr o'r byd i amddiffyn Gweriniaeth Sbaen. Roedd cannoedd o ddynion a menywod o Gymru ymhlith y gwirfoddolwyr yma. Roedd eu gweithredoedd yn adlewyrchu'u hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol a gwrth-ffasgiaeth.
Roedd cymoedd a threfi De Cymru a oedd wedi’u heffeithio’n fawr gan ddiweithdra a thlodi, wedi teimlo ymdeimlad cryf o undod. Ymhlith y gwirfoddolwyr oedd glowyr, athrawon, awduron ac undebwyr llafur a oedd wedi ymuno o ganlyniad i'r blynyddoedd caled rhwng y rhyfeloedd yng Nghymru. Er bod yr unigolion yma'n dod o gefndir swyddi amrywiol, roedden nhw'n rhannu un peth yn gyffredin, sef gwrthwynebu'r cynnydd o ran ffasgiaeth ledled Ewrop.
Roedd Lewis Jones o Gwm Clydach ymhlith yr unigolion mwyaf amlwg. Ar ôl dechrau gweithio yn y pyllau glo yn 12 oed, chwaraeodd Jones ran weithredol yn y streic a arweiniodd at Derfysgoedd Tonypandy yn 1910–1911. Yntau'n löwr ac ymgyrchydd, roedd ei arweinyddiaeth a'i gyfraniadau llenyddol yn ymgorffori ysbryd y Cymry o wirfoddolwyr yn Sbaen. Roedd Brigadwyr Cymru wedi gwasanaethu'n ddewr ar y rheng flaen mewn brwydrau enwog fel Jarama ac Ebro. Roedd eu profiadau wedi'i ddynodi gan gyfeillgarwch a thrasiedi, gyda llawer yn gwneud yr aberth eithaf. Mae atgofion y dynion a'r menywod dewr yma'n parhau i fyw yng Nghymru, drwy gofebau, llenyddiaeth, a digwyddiadau coffa blynyddol sy'n talu teyrnged i'w dewrder a'u hymrwymiad.
Mae stori gwirfoddolwyr Cymru yn Sbaen yn parhau i ddangos rhyngwladoldeb a'r frwydr barhaus dros gydraddoldeb. Dyma atgof pwerus o'r effaith mae unigolion o gymunedau bach yn gallu cael ar frwydrau byd-eang dros gyfiawnder.
Dylid nodi y cafodd y gwirfoddolwyr a ymunodd â'r frigâd ryngwladol yn Sbaen rifau adnabod brigâd, nid rhifau gwasanaeth.
