Murlun 'The Valley Awakes'

This item is active and ready to use
Murlun 'The Valley Awakes'
Murlun 'The Valley Awakes'
Murlun 'The Valley Awakes'

Manylion

Rhif y ffotograff
DD006
Lleoliad
Neuadd y Farchnad, gyferbyn ag Eglwys y Santes Catrin
Lle
Pontypridd
Crëwr
Diane Dixon
Blwyddyn y ddelwedd
2022
Manylion
Daeth menter y murlun gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn yn Adran y Celfyddydau ym Mhrifysgol Morgannwg dan arweiniad eu tiwtor, Mrs Frances Woodley o'r Adran Serameg yn 2004. Cafodd ei ddylunio a'i greu ganddyn nhw gyda chymorth plant Ysgol Gynradd Evan James, ac roedd yn brosiect gradd blwyddyn olaf. Penderfynwyd ar y syniad a sut i hwyluso'r prosiect mewn cyfarfod yn yr Otley Arms yn Nhrefforest rhwng y myfyrwyr a'r Celteiddwyr. Nod y murlun oedd dathlu adfywiad y Cymoedd a bywyd gwyllt yn dychwelyd ar ôl i genedlaethau o fwyngloddio a diwydiant lygru'r aer a'r afonydd. Heddiw, gellir gweld crëyr glas yn hedfan tuag at yr hen bont i fwydo yng nghysgod Parc Ynysangharad ac roedd adroddiadau am eogiaid yn Afon Taf hefyd yn ysbrydoliaeth i’r prosiect.

Labelau