Plac Glas yng Nglofa Abernant-y-Groes

This item is active and ready to use
Plac Glas yng Nglofa Abernant-y-Groes
Plac Glas yng Nglofa Abernant-y-Groes
Plac Glas yng Nglofa Abernant-y-Groes

Manylion

Rhif y ffotograff
30636
Teitl
Plac Glas yng Nglofa Abernant-y-Groes
Lle
Cwmbach
Crëwr
Colin Rees
Blwyddyn y ddelwedd
2010
Manylion

Arloeswr y fasnach lo oedd Thomas Wayne, mab Mathew Wayne, meistr haearn a meistr glo Merthyr. Perswadiodd Wayne ei dad a'i frawd hŷn y dylid ceisio cyrraedd y wythïen enwog pedair troedfedd o lo stêm. Dechreuodd suddo Glofa Abernant-y-Groes (a elwid yn ddiweddarach yn Glofa Cwmbach) ym mis Mehefin 1837, ac erbyn mis Rhagfyr y flwyddyn honno roeddent wedi suddo'r siafft 60 troedfedd. Ffurfiodd y bobl a oedd yn rhan o'r fenter, Gwmni Glo Stêm Merthyr-Aberdâr Wayne ar unwaith, ac erbyn diwedd mis Rhagfyr roedd glo o'r lofa yn cael ei arddangos yn Llundain.

Labelau